Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y Rhaglen o'r Newydd gan Lywodraeth Cymru ar Ddileu TB

 

20 Mehefin 2017

 

 

Un o amcanion tymor hir Llywodraeth Cymru yw dileu TB yng Nghymru a'r Rhaglen i Ddileu TB sy'n rhoi arweiniad i'r gwaith hwn. Yr amcan yw lleihau'r effeithiau o ran lles anifeiliaid a'r rhai cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cysylltiedig ar fusnesau fferm a'r gymuned wledig ehangach, yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd. Mae'r Rhaglen yn cefnogi'r egwyddor datblygu cynaliadwy, sef gwell atal na gwella, gan gyfrannu at elw'r diwydiant da byw.

 

Sefydlwyd y Rhaglen i Ddileu TB yn 2008 ac mae'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma yn addawol, gyda nifer yr achosion newydd o TB yn is nag ers 12 mlynedd a thros 95% o fuchesi heb TB.

 

Wth weithio i ddileu TB, rhaid parhau i ganolbwyntio ar bob ffynhonnell heintio, gan gynnwys y cysylltiad rhwng gwartheg â'i gilydd, anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid eraill heblaw gwartheg.

 

Mae'r Rhaglen yn cynnwys mesurau cynhwysfawr ac ystyrlon, wedi'u gosod mewn cynllun cyflawni all gael ei addasu yn ôl sefyllfa TB gwartheg yng Nghymru.

 

Gan adeiladu ar ein llwyddiant hyd yma, gwnaethom ni ymgynghori hydref diwethaf ar fynd i'r afael â TB ar sail rhanbarthol yng Nghymru. Rydym wedi ystyried yr ymatebion a byddaf yn gwneud datganiad ar gynllun cyflawni ar gyfer y dyfodol yn ddiweddarach heddiw.

.

Hoffwn ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hadroddiad ar ein Rhaglen i Ddileu TB. Rwy'n neilltuol o falch o weld bod argymhellion y Pwyllgor yn ategu ein cynigion ni. Rwy'n ymateb i argymhellion unigol yr Adroddiad isod.

 

Ymatebion Manwl i argymhellion yr adroddiad:

 

Argymhelliad 1

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru bennu dyddiad targed cenedlaethol i Gymru fod yn swyddogol glir o TB ac egluro’r broses ar gyfer cyflawni hyn.

 

Argymhelliad 2

 

Dylai Llywodraeth Cymru bennu targedau interim ar gyfer dileu’r clefyd ym mhob un o’r tri rhanbarth TB – uchel, canolradd ac isel.

 

Ymateb i argymhellion 1 a 2: Derbyn

 

Yn ôl gwaith y tîm epidemiolegol, gellir rhannu'r celfyd yng Nghymru'n dri chategori ar sail natur yr achosion TB.  Bydd hynny'n caniatáu inni ddefnyddio dulliau gwahanol ar gyfer atal a rheoli'r clefyd mewn rhanbarthau gwahanol. Ein hamcanion cyntaf yw cynnal y cynnydd diweddar ac adeiladu arno. Mae hynny'n cynnwys cadw lefelau isel y clefyd yn yr Ardaloedd TB Isel, gostwng nifer yr achosion newydd a nifer y buchesi o dan gyfyngiadau yn yr Ardaloedd TB Canolradd ac Uchel a gostwng y nifer sy'n cael eu taro dro ar ôl tro.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i bennu targed dileu ffurfiol yn ogystal â cherrig milltir interim ar gyfer Cymru'n gyfan ac ar gyfer y rhanbarthau. Rydym yn disgwyl gallu paratoi adroddiad ar hyn erbyn mis Rhagfyr 2017.

 

Goblygiadau ariannol - Dim. Telir am unrhyw gostau ychwanegol trwy gyllidebau presennol y rhaglenni.

 

 

 

Argymhelliad 3

 

Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio ymhellach i’r risgiau posibl fod TB yn cael ei ledaenu oherwydd cynnydd ym maint gyrroedd ac arferion rheoli slyri. Drwy gynnwys cyngor ar y ddau fater hwn mewn canllawiau gan Lywodraeth Cymru, gellid gwella’r cymorth a gynigir i ffermwyr wrth ymdrin â’r clefyd hwn

 

Ymateb : Derbyn

Mae Rhaglen Ymchwil a Datblygu TB yn cael ei gweinyddu gan Defra ar ran gwledydd Prydain Fawr. Mae fy swyddogion yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y byrddau  a grwpiau ymchwil perthnasol sy'n ystyried pa waith ymchwil a datblygu y dylid rhoi blaenoriaeth iddo.

Mae gwaith blaenorol ar asesu risg wedi nodi bod y risg o gael eu heintio â TB yn fwy i fuchesi mwy (sy'n tueddu i fod yn fuchesi godro) ac rwy'n cytuno bod angen inni ddeall yn well pam y mae buchesi mwy yn fwy tebygol o gael eu heintio â TB. Mae cynnig i astudio ffactorau risg TB wrthi'n cael ei ystyried, gan ddefnyddio ffermydd gwartheg sydd heb eu heintio yng Nghymru a Lloegr. Caiff y dystiolaeth a gesglir ei defnyddio i ddiweddaru'r cyngor a roddir i ffermwyr.

Rydym yn derbyn bod risg posibl i ledaenu TB trwy slyri. Mae ymchwil i gasglu tystiolaeth am hyn yn rhan o Gynllun Ymchwil a Datblygu Prydain Fawr ar gyfer 17/18.

Goblygiadau ariannol - Dim. Telir am unrhyw gostau ychwanegol trwy gyllidebau presennol y rhaglenni.

 

 

Argymhelliad 4

 

Dylai Llywodraeth Cymru gadw golwg ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am brofion TB buchol ac archwilio pob opsiwn ar gyfer cynnal profion effeithiol sy’n gymesur â’r risgiau a nodwyd

 

Ymateb : Derbyn

Fel y dywedwyd uchod, mae Rhaglen Ymchwil a Datblygu TB yn cael ei gweinyddu gan Defra ar ran Prydain Fawr ac mae fy swyddogion yn cymryd rhan lawn ynddi ar ran Cymru. Bydd fy swyddogion yn parhau i gadw golwg ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am brofion TB gwartheg. Mae nifer o brofion TB (yn ogystal â'r profion croen a gamma) wedi'u datblygu, ond nid oes yr un ohonynt wedi cyrraedd yr un lefel o fanylder a sensitifrwydd. Ein cynllun yw parhau i ddefnyddio profion mewn ffodd gymharus trwy ddefnyddio prawf gama interfferon mewn achosion cronig a buchesi risg uchel yn yr Ardal TB Isel.

Goblygiadau ariannol - Dim.  Telir am unrhyw gostau ychwanegol o gyllideb bresennol y rhaglen.

 

 

 

Argymhelliad 5

 

Cyhyd ag y bo modd, dylai Llywodraeth Cymru gynnwys y diwydiant yn y gwaith o ddatblygu pecyn bioddiogelwch ar-lein, a hynny er mwyn sicrhau y gall ffermwyr Cymru ddatblygu mesurau’n ymwneud yn benodol â ffermydd a fydd yn ychwanegu gwerth at yr ymdrechion i reoli a dileu’r clefyd.

 

Ymateb : Derbyn

 

Gan adeiladu ar waith blaenorol, roedd bioddiogelwch yn rhan o'n hymgynghoriad diweddar a chafwyd ymateb positif gan y diwydiant i'r cynllun o gyflwyno pecyn bioddiogelwch ar-lein. Mae'n rhan allweddol o'n rhaglen dileu a byddwn yn datblygu pecyn ar-lein safonol yn y tymor hir i helpu ffermwyr i wella arferion ffermio a bioddiogelwch. Yn y tymor byr, er mwyn cefnogi'r pecyn ehangach, rydym wrthi'n datblygu app bioddiogelwch. Caiff canllaw ar y safonau bioddiogelwch ei ddatblygu a gofynnir i'r diwydiant gytuno arno.

 

Goblygiadau ariannol Bydd costau ynghlwm wrth ddatblygu pecyn bioddiogelwch ar-lein ac app ond nid oes modd eu mesur ar hyn o bryd.

 

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 6

 

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i hybu trefniadau Prynu Gwybodus, sef masnachu yn seiliedig ar risg. Dylai system fasnachu yn seiliedig ar risg gael ei chyflwyno’n wirfoddol i ddechrau yn y diwydiant a’r marchnadoedd da byw. Dylid adolygu’r system yn gyson ac, os bydd angen, dylid ei gwneud yn orfodol.

 

Ymateb : Derbyn

 

Mae cynlluniau Masnachu yn seileidig ar Risg yn  Seland Newydd ac Awstralia wedi cyfrannu'n fawr at ddileu TB yno ac rydym eisoes wedi cynnig grantiau i farchnadoedd da byw er mwyn iddyn nhw allu diweddaru'u hoffer i ddangos gwybodaeth am TB. Rwy'n annog ffermwyr hefyd i gofrestru ar gyfer cynllun TB y  Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHeCS) gan y bydd yn helpu prynwyr i osgoi cario'r clefyd i'w buches ac yn eithrio'r buchesi sydd wedi'u categoreiddio fel y rhai isaf eu risg rhag rhai o'r mesurau rheoli gwartheg. Byddwn yn parhau i adolygu’r cynlluniau gwirfoddol hyn.  Yn y tymor hir, mae’n debygol mai dim ond system orfodol all sicrhau bod gwybodaeth am TB yn cael ei dangos wrth y pwynt gwerthu.  Rydym felly’n ymchwilio i ffyrdd o wneud hyn.

 

Goblygiadau ariannol  - nid oes modd cyfri'r gost eto. Un o amcanion tymor hir y Rhaglen i Ddileu TB yw hwn ac nid ydym yn gwybod beth y bydd system orfodol yn ei olygu e.e. systemau TG cryfach ac ati.

 

 

 

Argymhelliad 7

 

Rhaid defnyddio dulliau gwyddonol o fonitro ac adolygu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i symud moch daear penodol mewn achosion o yrroedd sydd â TB cronig. Rhaid addasu neu atal y rhaglen os nad yw’n rhwystro TB buchol rhag cael ei drosglwyddo o fywyd gwyllt i wartheg. Rhaid i unrhyw gamau a gymerir fel rhan o gynllun treialu gynnwys ffiniau caled a mesurau digonol i ddiogelu rhag y risg y bydd y cymunedau bywyd gwyllt yn aflonyddu.

 

Ymateb : Derbyn mewn Egwyddor

 

Rhaglen wedi'i thargedu i gael gwared ar foch daear yw un o'r amrywiaeth o fesurau cryfach sy'n cael eu datblygu gan filfeddygon, epidemiolegwyr ac arbenigwyr bywyd gwyllt. Bydd monitro gwyddonol yn elfen hollbwysig. Rwy'n cytuno bod yn rhaid adolygu'r rhaglen yn ôl yr angen. Ein bwriad yw delio â moch daear ar lefel y fferm yn unig. Mae tystiolaeth gweithgarwch blaenorol (er enghraifft RBCT) yn awgrymu bod perygl i'r moch daear sy'n cael eu haflonyddu wasgaru.  Fel polisi, nid oes rhaglen o symud moch daear ar raddfa fach wedi'i chynnal o'r blaen ond mae’n annhebygol y cawn hyd i leoliad sydd wedi’i amddiffyn â ffin galed.  Nid oes modd rhagweld faint o wasgaru y gellid ei ddisgwyl, ond fe gaiff y sefyllfa ei monitro'n ofalus a cheisir lleihau'r broblem wasgaru gymaint ag y medrir.

 

Disgwylir i frechlyn fod ar gael yn 2018 a gallai hynny roi amddiffyniad pellach i'r moch daear sy'n weddill.

 

Goblygiadau ariannol - Telir am y costau cychwynnol trwy gyllideb bresennol y rhaglen. Bydd lefel y gwariant yn dibynnu ar faint o arian fydd ar gael.

Gall Llywodraeth Cymru benderfynu ar nifer ac i ba raddau y rhoddir y mesurau cryfach hyn ar waith er lles y buchesi hyn. Mae adolygiad o gynnydd misol y Cynlluniau Gweithredu a'r costau cysylltiedig wedi'i roi i APHA. Rhan o'r broses hon o fonitro ac adolygu fydd sicrhau na fydd Cyllideb y Rhaglen TB wedi'i gorwario ar ddiwedd y flwyddyn.

 

 

 

Argymhelliad 8

 

Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru baratoi adroddiad i’r Pwyllgor ddeuddeg mis ar ôl i ganlyniadau’r rhaglen i symud moch daear penodol ddechrau dod i’r amlwg. Rydym yn disgwyl i ddata Llywodraeth Cymru fod ar gael i’r cyhoedd, er mwyn sicrhau ei bod yn dilyn prosesau tryloyw wrth iddi wneud penderfyniadau ac adolygu.

 

Ymateb : Derbyn

 

Caiff y rhaglen symud moch daear ei monitro'n ofalus a byddwn yn cyhoeddi adroddiadau ar y rhaglen ac urnhyw effeithiau ar sefyllfa'r clefyd ar ein gwefan. Caiff yr adroddiadau hyn eu cyflwyno hefyd i'r Pwyllgor.

 

Goblygiadau ariannol - Dim.  Telir am unrhyw gostau ychwanegol o gyllideb bresennol y rhaglen.

 

 

 

Argymhelliad 9

 

Dylai Llywodraeth Cymru a Defra sicrhau bod y canllawiau cadarn ar waith i hwyluso cydweithrediad trawsffiniol, yn enwedig mewn perthynas â mesurau rheoli bywyd gwyllt, gan gynnwys symud a difa moch daear. Rhaid i Lywodraeth Cymru a Defra adolygu’r canllawiau hyn yn gyson.

 

Ymateb : Derbyn

 

Rwy'n hyderus bod canllawiau cadarn ar gyfer cydweithredu ar draws ffiniau yn eu lle ac os bydd yn rhaid delio â moch daear ger y ffin, bydd y ddwy lywodraeth yn cadw at y canllawiau. Mae swyddogion o'r ddwy lywodraeth wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd, clos a bydd hynny'n parhau. Hyd yma, nid oes moch daear wedi'u difa o dan drwydded o fewn 2km i ffin Cymru.

 

 

Goblygiadau ariannol - Dim

 

 

 

Argymhelliad 10

 

Dylai Llywodraeth Cymru dalu swm rhesymol o iawndal i ffermwyr am wartheg a gaiff eu lladd fel rhan o’r rhaglen i ddileu TB.  Dylai’r swm hwn barhau i gael ei adolygu, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

 

Ymateb : Derbyn

 

Mae ein system o dalu iawndal yn seiliedig ar brisiadau unigol yn unol â phrisiau'r farchnad ac mae ein system gosbau'n annog ffermwyr i gydymffurfio ac i gadw at yr arferion gorau. Byddaf yn parhau i adolygu'r system iawndal, gan ymgynghori â rhanddeiliaid.

 

Goblygiadau ariannol - Bydd adolygiadau o'r system talu iawndal yn y dyfodol yn gorfod ystyried effaith colli arian yr Undeb Ewropeaidd, sef 15% o'r gyllideb dileu TB.

 

 

 

Argymhelliad 11

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid a geir gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ar gyfer profion TB buchol a mesurau eraill, yn cael ei warantu o fewn cyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

Ymateb : Derbyn mewn egwyddor

 

Rwyf wedi'i gwneud yn glir mewn trafodaethau â Llywodraeth y DU ein bod yn disgwyl iddi gadw yr addewidion a wnaeth yn ystod ymgyrch y refferendwm yng Nghymru na fyddem yn colli'r un geiniog pe bai'r DU yn gadael yr UE.

 

Goblygiadau ariannol - Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth yw'r goblygiadau ariannol.

 

 

 

Argymhelliad 12

Rhaid i Lywodraeth Cymru geisio sicrwydd ar unwaith gan Lywodraeth y DU na fydd statws TB buchol gweddill y DU yn effeithio ar y gallu i barhau i fanteisio ar farchnad sengl yr UE.

 

 

 

 

Ymateb : Derbyn

 

Bydd Llywodraeth Cymru'n ceisio addewidion gan Lywodraeth y DU na fydd statws TB buchol y DU yn effeithio ar fasnach ar ôl gadael yr UE. Yn y pen draw, bydd hyn yn dibynnu ar y cytundebau masnachu gaiff eu negodi ac mae'n enghraifft arall pam ei bod mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cael cymryd rhan lawn yn y broses.

 

 

Goblygiadau ariannol - NId ydym yn gwybod ar hyn o beth yw'r goblygiadau ariannol.

 

 

 

 

 

 

Lesley Griffiths AC

Ysgrifennydd y Cabinet  dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig